Comisiwn y Senedd |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 22 Mai 2023 |
|
||||
Amser: |
10.30 - 12.10 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: SC(6)2023(4) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Y Gw. Anrh. Elin Jones AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Janet Finch-Saunders AS Ken Skates AS Joyce Watson AS |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau Simon Hart, Pennaeth dros dro y Gwasanaethau Ariannol Nerys Evans, Pennaeth y Gwasanaeth, Rheoli Cyfleusterau ac Ystadau Leanne Baker, Prif Swyddog Pobl dros dro Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol, Head of the Legal Service Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniadau ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.b Datgan buddiannau
Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
1.c Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 27 Mawrth.
2 Ffyrdd o Weithio – Opsiynau strategol ar gyfer prosiect Bae 2032
Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad ar gyngor proffesiynol cychwynnol ynghylch opsiynau hyfyw sicrhau llety sy'n diwallu anghenion hirdymor y Senedd a'r Comisiwn. Roedd y cyngor yn seiliedig ar yr anghenion a'r gofynion drafft y cytunwyd arnynt ym mis Rhagfyr 2022.
Trafododd y Comisiynwyr arwyddocâd ystyriaethau datblygu cynaliadwy a chyfle cyfartal ynghyd â phwysigrwydd cael safbwynt hirdymor ar werth i bwrs y wlad.
Cytunodd y Comisiynwyr yn unfrydol y dylai swyddogion fwrw ymlaen â'r opsiynau prosiect ar y rhestr fer a bwrw ymlaen â drafftio cam cyntaf yr achos busnes ar gyfer prosiect Bae 2032 (yr Achos Amlinellol Strategol) ar sail y cyngor a ddarparwyd.
Cytunodd y Comisiynwyr i gael diweddariad yng nghyfarfod mis Gorffennaf, ynghylch cynnydd o ran archwilio'r holl opsiynau.
3 Cyllideb Ddrafft 2024-25
Ystyriodd y Comisiynwyr nifer o faterion a oedd yn debygol o effeithio ar gyllid y Comisiwn yn ystod 2024-25 a rhoi cyfarwyddyd y dylid datblygu cynigion yn y meysydd hyn fel rhan o gyllideb ddrafft 2024-25. Roedd y rhain yn cynnwys:
· Diwygio'r Senedd
· Rhaglen Ffyrdd o Weithio (rhagamcanion manwl)
· Effeithiau Strategaeth Gyflogau'r Comisiwn ar y gyllideb.
· Ystyriaethau nad ydynt yn ymwneud â thâl.
Trafododd y Comisiynwyr yr heriau sy’n gysylltiedig â gweithredu mewn amgylchedd lle mae arian yn dynn, gyda dewisiadau anodd yn gorfod cael eu gwneud, a chydbwyso'r angen i ddarparu’r gwasanaethau presennol, bodloni rhwymedigaethau cytundebol, ac ymateb i ofynion newydd. Cyfeiriwyd at sefyllfa gadarnhaol barhaus y Comisiwn o wahardd diswyddiadau gorfodol.
Cytunwyd i ystyried y gyllideb ddrafft ochr yn ochr â'r Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig drafft, gwaith a fyddai'n dwyn ynghyd Gynlluniau Tymor Canolig Ariannol a'r Gweithlu, fel rhan o gyflawni'r amserlenni sy'n ofynnol gan y Rheolau Sefydlog.
Nododd y Comisiynwyr hefyd y byddai unrhyw effaith gyllidebol o ran amcangyfrif costau ynni yn y dyfodol; adolygu cyllidebau ystadau, TGCh a chronfeydd prosiect; unrhyw newidiadau i gostau cyfraniadau pensiwn y cyflogwr; a'r adolygiad blynyddol o Gostau Penderfyniad yn cael eu nodi yng Nghyllideb Ddrafft 2024-25.
4 Diweddariad i'r Pwyllgor Cyllid
Cytunodd y Comisiynwyr i llythyr at y Pwyllgor Cyllid i roi gwybodaeth mewn perthynas ag Argymhelliad 7 o Adroddiad y Pwyllgor am waith craffu ar Gyllideb 2023-24, ynghylch gwerthuso effeithiolrwydd y mentrau a gyflwynwyd gan y Comisiwn i liniaru effaith pwysau costau byw ar staff.
5 Diweddariad i PAPAC
Ystyriodd y Comisiynwyr wybodaeth i’w darparu i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus mewn dau faes yn dilyn Craffu ar y Cyfrifon ar gyfer 2021-22. Roedd y rhain yn ddadansoddiad o'r prosiectau a weithredwyd fel rhan o’r gronfa brosiectau, a chrynodeb o ganlyniadau'r arolwg staff a'r arolwg pwls. Gofynnodd y Comisiynwyr am rywfaint o eglurhad a chytunwyd ar gynnwys y llythyr at y Pwyllgor.
6 Diwygiadau i Gylch Gorchwyl ARAC
Roedd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg wedi nodi newidiadau yr oedd am eu gweithredu i'w Gylch Gorchwyl. Cytunwyd ar y newidiadau, ynghyd â'r cytundeb ar gyfer gwneud newidiadau i enwau teitlau swyddi/cyrff y cyfeirir atynt yn y ddogfen yn ôl yr angen.
7 Papurau i'w nodi:
7.a Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) 13 Chwefror
Nododd y Comisiynwyr y diweddariad arferol am gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a ddarperir i'r Comisiwn.
7.b Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn.
7.c Nodiadau ar Grŵp Cyswllt Pleidiau’r Senedd 9 Mawrth
Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth am gyfarfod 9 Mawrth.
7.d Llythyr ac Ymateb PCS
Nododd y Comisiynwyr yn ffurfiol y llythyr at y Llywydd gan Undeb y PCS ar gyfer staff y Comisiwn a'r ateb. Dosbarthwyd y ddau lythyr i Gomisiynwyr y tu allan i gyfarfodydd.
7.e Diweddariad ar Adleoli Swyddfeydd y Gogledd
Nododd y Comisiynwyr gynnydd y prosiect i adleoli cyfleusterau a gwasanaethau Comisiwn y Senedd a ddarperir yn swyddfa Bae Colwyn i swyddfa yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Sarn Mynach (Cyffordd Llandudno).
8 Unrhyw Fater Arall
Materion yn ymwneud â chwestiynau llafar yn y Cyfarfod Llawn – cyfeiriodd dau Gomisiynydd at faterion a godwyd yn ystod Cwestiynau Llafar i'r Comisiwn ar 17 Mai. Roedd y rhain yn ymwneud â hawliau gwyliau blynyddol i staff y Comisiwn a gwelededd gwybodaeth am y gefnogaeth y mae'r Comisiwn yn ei darparu ar gyfer staff y Comisiwn a staff yr Aelodau sy'n cael profiad o aflonyddu.
Yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf roedd Comisiynwyr wedi cytuno ar gynnwys y Memorandwm Esboniadol, a llythyr eglurhaol ar gyfer y Pwyllgor Cyllid, yn ymwneud â'r Gyllideb Atodol.